Metropolitan provincialism and the Welsh Language

I wrote an article for the Welsh language magazine Barn on some of the recent London-based media items on the Welsh Language. The article follows in both Welsh and English.

Barn

 

Taleithgarwch Dinesig a’r Iaith Gymraeg

 

 

Leighton Andrews

 

Dros yr haf cafwyd erthyglau neu eitemau anwybodus yn y Guardian, The Times a Newsnight ynghylch yr iaith Gymraeg. Oherwydd y cyflymder ymateb a ganiateir gan gyfryngau cymdeithasol heddiw, gorfu iddynt oll amddifyn eu hunain rhag beirniadaeth sylweddol cefnogwyr yr iaith Gymraeg, boed rheini yn siarad yr iaith ai peidio. Dywedodd fy nghysylltiadau i yn y ddau bapur newydd yn ddioed y bu’r ddadansoddi golygyddol mewnol yr un mor hallt. O ganlyniad cyhoeddodd y ddau bapur yn fuan wedyn erthyglau ystyriol a oedd yn fwy cefnogol i’r iaith.

 

Roedd ymateb staff yn y BBC a gynddeiriogwyd gan Newsnight yn gyhoeddus a buan, er i ffynonellau swyddogol dewi tan ar ôl darlledu ymddiheuriad llugoer braidd Newsnight. Wedi hyn oll, cyfaddefodd y BBC y gallasai’r item fod wedi bod yn drafodaeth well pe bai siaradwr Cymraeg yn bresennol.

 

Mae’r traethiadau ysbeidiol hyn yn amlygu problem ehangach pan ddaw hi’n fater o drafod yr iaith Gymraeg a Chymru. Mae gan y Deyrnas Gyfunol un o’r sectorau papur newydd mwyaf canoledig yn Ewrop. Roedd gan y BBC, ysgrifennodd ei chyn-olygydd gwleidyddol Andrew Marr unwaith, duedd diwylliannol ddinesig ryddfrydol. Bu agwedd Newsnight tuag at rannau eraill o’r BBC, hyd yn oed oddi fun i’r uned newyddion a materion cyfoes yn Llundain, yn drahaus erioed. Bu i Marr a Martin Kettle y Guardian, bitïo methiant cyfryngau Llundain i drafod y Deyrnas Gyfunol a’i dadlennu hi iddi hi ei hun, gan fethu i helaethu dealltwriaeth pobl mewn gwahanol ardaloedd, dinasoedd, rhanbarthau ac o wahanol genhedloedd o lefydd a diwylliannau eraill. Galwodd Kenneth O. Morgan a Raymond Williams ill dau yn unigol yr agwedd hon yn ‘daleithgarwch dinesig’ (‘metropolitan provincialism’).

 

Ar ôl bron ugain maligned o ddatganoli, dylem allu disgwyl gwell, ond nid wyf yn disgwyl i hynny ddigwydd. Dyna pam y bu i’n Tasglu diweddar ar newyddion digidol ac anghenion gwybodaeth y Cynulliad godi’r posibilrwydd o blatfform newyddion digidol i’r Cynulliad.

 

Mae ystafelloedd newyddion Llundain yn darganfod y Gymraeg yn unig pan maent am wneud hwyl ar ben beth sydd iddyn nhw yn rhyfedd, neu yn egsotig neu yn wyrdroad o’r norm iaith Saesneg. Y storïau na chȃnt eu hadrodd yw’r rhai am amrywiaeth siaradwyr y Gymraeg; am lwyddiant addysg ddwyieithog; taw dwyieithogrwydd yw’r norm yn Ewrop a thu hwnt; a’r llwyddiant gwleidyddol a ddangosir trwy’r polisïau i feithrin y Gymraeg dros y 60 mlynedd diwethaf.

 

Ges i fy magu yn ddi-Gymraeg: er fod fy mamgu o Ddinas Cross yn Sir Benfro, a symudodd i’r Barri ar droad yr ugeinfed ganrif, yn medru’r iaith, ni throsglwyddodd yr iaith i fy nhad. Nawr gallaf gynnal sgyrsiau yn Gymraeg, wneud areithiau yn Gymraeg, gynnal cyfweliadau yn Gymraeg, ac yn bwysicaf oll gallaf siarad Cymraeg fel tadcu i’m wyres hynaf. Mae hanes y Gymraeg yn hanes llwyddiant Prydeinig a gresyn na all golygyddion Llundain weld hynny.

 

 

 

 

Metropolitan provincialism and the Welsh Language

 

Leighton Andrews

 

This summer the Guardian, The Times and BBC Newsnight all ran ill-informed articles or items about the Welsh Language. With the speed of response allowed by social media today, each was immediately placed on the defensive by the concentrated criticism from supporters of the Welsh Language, whether they spoke Welsh or not. My own contacts at the two newspapers very swiftly told me that the internal editorial post-mortem was also fierce. Both publications subsequently published critical pieces more supportive of the language.

 

The reaction from BBC staff appalled by Newsnight was public and prompt, although official sources were silent until after Newsnight broadcast something of a half-hearted apology. Subsequently, the BBC has admitted that the item would have been better debated with the presence of a Welsh-speaker.

 

These spasmodic commentaries demonstrate a wider problem when it comes to UK coverage of the Welsh Language and Wales. The UK has one of the most centralized newspaper sectors in Europe. The BBC, its presenter and former political editor Andrew Marr once wrote, had an urban cultural liberal bias. Newsnight has always demonstrated an arrogance to other parts of the BBC, even within its London news and current affairs operation. Both Marr and the Guardian’s Martin Kettle have lamented the failure of London media to report the UK to itself, helping a widening understanding by people in different districts, towns, cities, regions and nations of other places and their cultures. Kenneth O. Morgan and Raymond Williams separately called this attitude ‘metropolitan provincialism’.

 

After almost 20 years of devolution, we should expect better, but I do not expect that to happen. That’s why our recent Task Force report on the Assembly’s digital news and information requirements raised the possibility of an Assembly digital content platform.

 

Newsrooms in London only discover Welsh when they want to poke fun at its perceived quaintness or exoticism or deviation from the English-speaking norm. The unreported stories are about the diversity of Welsh-speakers in Wales; the growth of Welsh-medium education; the fact that bilingualism is the norm in Europe and beyond; and the political success that Welsh language policy demonstrates over the last 60 years.

 

I grew up not speaking Welsh: though my grandmother from Dinas Cross in Pembrokeshire who moved to Barry sometime before the turn of the twentieth century had the language, it was never passed to my father. Now I can hold conversations in Welsh, makes speeches in Welsh, do interviews in Welsh, and more importantly speak Welsh as Tadcu to my elder grand-daughter. The story of Welsh is a British success story, and it’s a shame that London editors can’t see it.